Cwmllafrod

Cwmllafrod (Valley of the leverets)

Click here for location map.

It is possible that ‘llafrod’ was originally ‘llefrod’ meaning leverets. Cwmllafrod no longer exists and its land is part of Cwm Rhaeadr Plantation, but in the tithe it was a holding of 31 acres, the landowner was Thomas Davies and the occupier was Morgan Morgan. In 1851, there were 2 dwellings here Cwmllafrod Uchaf and Cwmllafrod Isaf.  It was the birthplace of Rev Lewis Roderick, who became a Baptist minister in New Quay, Ceredigion.  His parents were Rees and Elizabeth Roderick (Rees being a Lead miner) who were present for the census returns of 1851 to 1881.  By the 1891 census the property was vacant.  

Source:

1. Seren Cymru 9/3/1894

From http://welshnewspapers.llgc.org.uk/

L. RODERICK, CEINEWYDD. Teimlwn ond dwys with orfod rhoddi y gair diweddar o flaen enw un mor anwyl a gwasan- aethgar a’r Parch L. Roderick. Nid oes genym ddefnyddiau wrth law i wneyd dim byd tebyg i fywgraffiad am dano, ac yr ydym yn rhy anaedd- fed mewn barn a phrofiad i feddwl am ysgrifenu unrhyw sylwadau beirniadol am dano; yr oil a ymgeisiwn fydd cyflwyno coffhad serchog am dano, fel teyrnged fechan o barch tuag ato. Ganwyd ein brawd mewn tyddyndy o’r enw Cwmllafrod, yn ardal Rhandirmwyn, Sir Gaer- fyrddin. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn teulu crefyddol, a mwynhau esiampl rhieni duwiol, yr hyn, yn ddiau, fu yn fantais annhraethadwy iddo wrth wynebu ar y byd. Y mae llawer o wir yn yr hen ddywediad, mai anhawdd dwyn dyn oddiar ei deulu.’ Mae rhyw ymwybyddiaeth mewn dyn fod yn naturiol iddo fod yn gyffelyb i’w achau, a chawn i Mr Roderick ddilyn camrau ei henafiaid o’i febyd. Ymofynodd am grefydd ei dadau yn foreu, a daeth yn ymgeisydd am fedydd yn eglwys barchus Seion, Rhandirmwyn, lie yr oedd ei rieni yn aelodau ffyddlon a pharchus. Bedydd- iwyd a derbyniwyd ef i gyflawn aelodiaeth eglwysig gan yr hybarch J. Davies, yn awr o Llandyssul. Nid hir y buwyd cyn gweled fod ynddo gymhwysderau pregethwrol, a chafodd gymhelliad taer i ymgyflwyno i waith mawr y weinidogaeth. Cydsyniodd yntau yn wylaidd a gostyngedig, a daeth yn fuan yn bregethwr cymmeradwy drwy eglwysi y cylch. Wedi tymhor o ymbarotoad “aeth i Athrofa Hwlffordd, lie y treuliodd y tymhor arferol o dair blynedd. Yn y flwyddyn 1865, pan yn 25 mlwydd oed, cafodd ei ordeinio yn weinidog ar yr eglwysi yn Ceinewydd a Llwyndafydd, ac yno yr aiosodd nes ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr. Llafuriodd yn galed yn ngwyneb llawer o an hawsderau, hyd nes y daeth methiant ac angeu i laesu ei afael. Cydgyfarfyddai yn Mr Roderick y rhinwedd- au gwerthfawr hyny a gyfansoddanty dyn def- nyddiol. Nid mewn donioldeb nac hyawdledd yr oedd ei arbenigrwydd,ond mewn bod yn ddef- nyddiol, a dyna’r dyn sydd o wir werth i eglwys a chymdeithas yn gyffredin. Yr oedd natur foesol ein brawd wedi ei gwneyd i fyny o’r elfenau mwyaf tyner a charuaidd, ac yr oedd ei wyneb yn wastad yn llawn serchogrwydd, ac mor lion a’r ihosyn yn ngwyneb haul. Bydd yn chwith gan ugeiniau o ymwelwyr blynyddol a Cheinewydd na chant mwy fwynhau ei gym- deithas ddyddan, gweled ei wyneb siriol, na derbyn ei gyfarchiad lion, a’u teimlad naturiol fydd fel y bardd 0 for the touch of a vanished hand, And the sound of a voice that is still.’ Yr oedd cymmeriad Mr Roderick mor ddys- glaer ag i fod uwchlaw amheuaeth. Cadwodd ei wisgoedd yn lan a’i arfau yn loew, ac ni lych- winodd ei ddillad er byw mewn byd mor frwnt. Cafodd arwyddion parch gan yr enwad a wasan- aethodd gyda’r fath ffyddlondeb ac ysbryd hunan-aberthol. Efe ydoedd Llywydd Cym- manfa Caerfyrddin ac Aberteifi am y flwyddyn ddiweddaf, ac y mae y ffaith fod ei dysteb adeg ei farwolaeth wedi cyrhaedd y swm o agos i £100, yn dweyd fod iddo gyfeillion calon o bell ac agos. Ni chafodd fyw i’w derbyn daeth gwys oddifry yn ei alw i dderbyn well done y Meistr. Nid ydym. yn grwgnach iddo yr an- rhydedd, ond bydded iddo fwynhau hyd at ddigonedd y llawryf a ennillodd mor deg. Yr oedd ei iechyd yn achlysurol yn lied an- mharus er’s rhai blynyddoedd, a theimlai yn ami oddiwrth ryw wendid tufewnol. Mewn gwendid mawr yr aeth i’r Gymmanfa yn Llwynhendy mis Mehefin diweddaf. Aeth oddiyno i aros ychydig yn ei ardal enedigol; ond ni chafodd awelon iachus glanau’r Tywi brydferth nemawr effaith ar ei gyfansoddiad. Dychwelodd i Cei- newydd i rodio glanau afon angeu. Bu yn ym- droi yn hir ar ol hyny o gylch y porth, ac yn clustfeinio am yr alwad. Prydnawn Sul, Chwef 11 eg, agorodd angeu gil y drws, a chafodd gip- olwg ar y fynedfa i dy ei Dad. Galwodd ei briod galarus a’i blant hoff, a dywedodd yn hyg- i iyw,-—’ Yr wyf fi yn eich gadael, yr Arglwydd a fyddo gyda chwi.’ 0 hyny allan, eu gadael wnaetb,myned yn mhellach oddiwrthynt hwy, ac yn agosach at olygfeydd a phreswylwyr y wlad well. Yn mhen rhai oriau, cyfarchodd ei fam ddwywaith, yr hon sydd wedi huno er ys blyn- yddoedd lawer. Pwy a *yr, er hyny, nad oedd yno or ei roesawi i’r arall fyd. Fel hyn hunodd yn dawel a dedwydd boreu Llun, Chwef. 12fed, wedi gwasanaethu ei genedlaeth ac eglwys Dduw yn ffyddion am agos i ddeng mlynedd-ar- hugain, a chyrhaedd yr oedran o 53 ml. oed. Claddwyd ef dydd Gwener canlynol yn myn- went Llwyndafydd. Yr oedd yr hin ar ddydd ei gladdedigaeth yn hynod o fanteisiol, a dilyn- wyd ei weddillion marwol gan dyrfa anarferol ar draed ac mewn cerbydau. Trefnydd yr angladd oedd y Parch J. Williams, Aberteifi. Gwasan- aethwyd yn y ty gan yr Ysgrifenydd. Yn y capel, darllenwyd gan y Parch D. W. Phillips, Blaenwaun, a gweddiwyd gan y Parch W. T. Francis, Penyparc. Wedi canu emyn, traddod- wyd anerchiadau pwrpasol gau y Parchn J. Williams, Aberteiu E. Phillips, Cwitnewydd R. 0. Owen (A.), Ceinewydd; J. Prytherch (A.), Wern, Llanarth; J. Davies, Llandyssul, ac E. Evans, Ysw., C.C., a gweddiwyd gan y Parch T. R. Davies (A), Pisgah. Ar lan y bedd, siaradwyd gan y Parch H. James, Aberduar, a gweddiwyd gan y Parch W. Lewis (M,), Capel- neuadd Yr oedd yn bresenol hefyd y Parch Mr Jenkins (M.), Ceinewydd, a’r Parch W. Griffiths (A.), Penygroes; Ficer Llandyssilio gogo; Rheithor a Churad Ceinewydd; Dr Evans, Ceinewydd, a J. Evans, Ysw., U.H. Derbyniwyd llythyrau yn datgan eu cydymdeim- lad a’r teulu ac a’r eglwysi oddiwrtb y Parchn Morris, Aberystwyth; Thomas Trelettert; Davies, Rochdale; Rees, Oswestry; Phillips, Verwig; Jones, Penrhyncoch, &c., ac oddiwrth I. Phillips, Ysw., Burry Poit, a H. Tobit Evans, Ysw., Neuadd Llanarth. Gadawa ein brawd weddw a saith o blant i alaru eu colled fawr. Y mae y mab hynaf yn llanw safle bwysig yn un o swyddfeydd y Brif- ddinas, ac yn aelod yn eglwys barchus Castle street, tra y mae mab arall, ar hyn o bryd, yn dilyn ei alwedigaeth ar y dyfroedd dyfnion. Bydded nawdd y N ef drosy teulu oil a’r eglwysi sydd wedi cael colled nas gwyddant etto ei maint. Tithau ein brawd, cwsg ynèawel o ran dy gorff, gwylied engyl dy orweddfan tra byddot yn huno, hyd nes gwawrio’r boreu, ac i gorff dy waeledd gael ei gyfnewid a’i wneyd yn I gyffelyb i’w gorff gogoneddus Ef.” Drefach. W. E. DAVIES.

Current name of farm / dwelling: Cwmllafrod (now dissappeared) Parish: Cil-y-cwm 
Name of Recorder: Dafydd Tomos Respondent(s):
Name of farm / dwelling on Tithe Map: Not shown on Tithe map
Name of farm / dwelling on Tithe Schedule: Cwmllafrod
Landowners:(Tithe Schedule) Thomas Davies
Occupiers:(Tithe Schedule) Morgan Morgan
Ref. No:(Tithe Schedule ) 54
Area in statute measure:(Tithe Schedule) 31.1.20
Land Charges R.A.D.(Cil-y-cwm) £1.1.0
Interesting family history Birthplace of Rev. L. Roderick (see notes at the end).Census 1861, 1871, 1881 – Rees and Elizabeth Roderick.  Not mentioned after this.
Other information not listed above Now part of Cwm Rhaeadr Plantation.