{"id":1011,"date":"2012-03-21T16:35:26","date_gmt":"2012-03-21T16:35:26","guid":{"rendered":"http:\/\/www.cilycwm.com\/?page_id=1011"},"modified":"2012-03-21T19:12:28","modified_gmt":"2012-03-21T19:12:28","slug":"village-life-in-world-war-2-bwyd-pentref-yn-ystod-yr-ail-ryfel-byd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cilycwm.com\/?page_id=1011","title":{"rendered":"Village life in World War 2 \/ Bwyd Pentref yn ystod yr Ail Ryfel Byd"},"content":{"rendered":"<p align=\"center\"><strong><em>Recollections of Tom Theophilus<\/em><\/strong><em>. (scroll down for English)<\/em><\/p>\n<p align=\"center\"><strong>ATGOFION PLENTYNDOD AM FYWYD PENTREF YN YSTOD YR AIL RYFEL BYD <\/strong><\/p>\n<p align=\"center\"><strong>YN RHANDIR-MWYN A CHIL-Y-CWM<em>\u00a0<\/em><\/strong><\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><strong><em>Atgofion Tom Theophilus<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Roedd y Gwirfoddolwyr Amddiffyn Lleol, a ddaeth yn Warchodlu Cartref yn ddiweddarach, yn cael eu cydlynu gan yr ysgolfeistr yng Nghil-y-cwm ac roedden nhw\u2019n cynnwys hen filwyr o\u2019r Rhyfel Byd Cyntaf, ffermwyr lleol a phobl ifainc dros 18 oed a oedd wedi gadael ysgol. I ddechrau, y dynion \u00e2 phrofiad yn y Rhyfel Byd Cyntaf a g\u00e2i eu dyrchafu i wisgo ambell streipen. \u00a0Doedd yna ddim gwisg swyddogol yn ystod y flwyddyn gyntaf, dim ond y llythrennau \u2018LDV\u2019 ar rwymyn braich, a byddai\u2019r dynion yn defnyddio eu drylliau eu hunain hyd nes i reifflau gael eu dosbarthu.\u00a0 Hyd yn oed wedyn, dim ond pum rownd a g\u00e2i pob dyn i\u2019w tanio.\u00a0 Roedd yr holl beth yn cael ei gymryd o ddifri, gydag ymarfer dril bob wythnos ar brynhawn ddydd Sul.\u00a0 Ac roedd plant yn cael eu cymell i wylio.<\/p>\n<p>Byddai dau wirfoddolwr ar ddyletswydd bob nos yng nghyffiniau T\u0177 Te Twm.\u00a0 Prif bwrpas hyn oedd cadw llygad ar symudiad unrhyw un a allai fod yn ysb\u00efwr. Roedd yr Almaenwyr yn gwybod yn iawn am yr ardal oherwydd roedd y propagandydd William Joyce, (Arglwydd Haw Haw), yn s\u00f4n am Reilffordd y Canolbarth a sut oedd yn cael ei defnyddio i gludo milwyr, nwyddau a gwasanaethau i Ganolbarth Lloegr a thu hwnt.\u00a0 Roedd wedi s\u00f4n yn un o\u2019i ddarllediadau propaganda am y bwriad i fomio Traphont Cynghordy.\u00a0 Roedd y rheilffordd yn brysur iawn yn ystod y rhyfel, gyda thr\u00ean bob chwarter awr.<\/p>\n<p>Mewn cymuned wledig, doedd prinder bwyd ddim yn gymaint o broblem ag oedd yn y trefi mawr a\u2019r dinasoedd.\u00a0 Roedd gan y ffermwyr ddigon o laeth, menyn a chaws, yn ogystal \u00e2 chig eidion.\u00a0 Fodd bynnag, roedd y pentrefwyr yn teimlo caledi dogni bwyd a dillad drwy gydol y rhyfel ac yn wir tan ddechrau\u2019r 1950au.<\/p>\n<p>Roedd rhaid i\u2019r plant fynd \u00e2 mygydau nwy gyda nhw i\u2019r ysgol, lle roedden nhw\u2019n ymarfer yn gyson i\u2019w defnyddio\u2019n iawn.\u00a0 Gwnaed gwelliannau i\u2019r mygydau cynharaf i\u2019w gwneud yn fwy effeithlon rhag unrhyw nwy.\u00a0 Byddai cystadlaethau\u2019n cael eu cynnal yn yr ysgol i wobrwyo\u2019r plant a fyddai&#8217;n casglu\u2019r llwyth gorau o sbwriel defnyddiol.\u00a0 Roedd y plant yn ennill pwyntiau tuag at wobr aur am gasglu tuniau, papur ac esgyrn.\u00a0\u00a0<em>Yn y dyddiau hynny, y ffermwyr eu hunain oedd yn penderfynu sut i waredu cyrff\u00a0 anifeiliaid<\/em>. Yn Rhandir-mwyn, roedd y plant yn cael hanner awr amser cinio i fynd \u00e2\u2019r eitemau a oedd wedi\u2019u casglu i sied y Capten Carr.<\/p>\n<p>Daeth faciw\u00ees o Abertawe a Llundain i\u2019r pentrefi.\u00a0 Er nad oedden nhw yn yr un dosbarth ysgol \u00e2 phlant lleol, am fod rhaid iddyn nhw gael addysg drwy gyfrwng y Saesneg, roedden nhw\u2019n cymysgu\u2019n dda \u00e2 phlant lleol yn eu cartrefi.\u00a0 Roedd yna ddau wersyll carchar rhyfel, y naill ar gyfer Eidalwyr a\u2019r llall ar gyfer Almaenwyr.\u00a0 Roedd y gwersylloedd hyn &#8211; yn Henllan a Llangadog &#8211; yn ddefnyddiol i ffermwyr oherwydd byddai\u2019r carcharorion yn gweithio ar y tir.\u00a0 Pan ddaeth y rhyfel i ben, arhosodd rhai o\u2019r Eidalwyr ac Almaenwyr a phriodi merched lleol.<\/p>\n<p>Bob blwyddyn cynhelid wythnos codi arian ynghyd \u00e2 menter Saliwt i\u2019r Milwyr, Wythnos Arfau Rhyfel a rhaglen Ariannu Llong Ddistryw.\u00a0 Pan fyddai aelodau o\u2019r lluoedd arfog yn dychwelyd i\u2019r pentrefi am seibiant cynhelid part\u00efon llawn hwyl i&#8217;r plant, ond roedd y tristwch yn llethol pan ddeuai\u2019r seibiant i ben a\u2019r dynion yn gorfod dychwelyd i faes y gad. Roedd y cyngherddau ar gyfer achlysuron fel hyn wedi\u2019u trefnu\u2019n dda ac yn boblogaidd dros ben.\u00a0 Byddai\u2019r plant wrth eu bodd yn canu ac adrodd i aelodau&#8217;r Fyddin, y Llu awyr a\u2019r Llynges.<\/p>\n<p>Roedd Abertawe yn darged mynych i awyrennau bomio\u2019r gelyn a gellid gweld y chwiloleuadau yno yng Nghil-y-cwm.\u00a0 Yn ystod un cyrch awyr a barodd am dridiau, denwyd sylw\u2019r peilotiaid at fferm Neuadd Fawr.\u00a0 Roedd yr hen blasty, a oedd bryd hynny\u2019n cael ei ddefnyddio i letya plant o Weston-super-Mare yn defnyddio\u2019i eneradur ei hun i gynhyrchu trydan, a gwelwyd y golau o\u2019r awyr.\u00a0 Gollyngwyd ychydig o fomiau ar Fynydd Mall\u00e1en, ond heb fod yn ddigon agos i achosi unrhyw ddifrod na niwed yn Neuadd Fawr.<\/p>\n<p>Galwyd ar aelodau&#8217;r Gwarchodlu Cartref yn ogystal \u00e2 gwirfoddolwyr eraill i ymchwilio.\u00a0 Pan gyrhaeddon nhw\u2019r fan a\u2019r lle, roedd yna ambell dwll i\u2019w weld, ond doedd yna ddim perygl o fomiau heb ffrwydro.<\/p>\n<p>Cyn glaniadau Dydd D, roedd milwyr America wedi bod yn ymarfer yn yr ardal. \u00a0Mae yna s\u00f4n am ddau filwr Americanaidd ar y mynydd am dridiau heb fwyd ac yn manteisio ar laeth y buchod yn y cyffiniau.\u00a0 Roedd y milwyr o America yn boblogaidd gyda\u2019r plant lleol oherwydd pan fydden nhw\u2019n teithio drwy Lanymddyfri ar y tr\u00ean bydden nhw&#8217;n taflu melysion i&#8217;r plant.\u00a0 Roedd yna ddau wersyll i\u2019r milwyr hyn yn Llanymddyfri &#8211;\u00a0 y naill, ger eglwys Llandingad, i\u2019r milwyr gwynion a&#8217;r llall, yr ochr arall i&#8217;r dref lle mae\u2019r maes carafannau ar hyn bryd, i\u2019r milwyr duon.\u00a0 \u00a0\u00a0Roedd yna heddlu milwrol ar ddyletswydd yn Llanymddyfri, ac ni fu unrhyw helynt.<\/p>\n<p>Byddai\u2019r pentrefwyr yn defnyddio setiau diwifr \u00e2 falfiau a oedd yn derbyn p\u0175er o fatris i gael y newyddion diweddaraf.\u00a0 Roedd rhaid mynd i Lanymddyfri i newid y batris. Hefyd c\u00e2i papur newydd ei ddosbarthu unwaith yr wythnos i&#8217;r pentrefi ar ddydd Sul.<\/p>\n<p>Er na ellid goleuo\u2019r strydoedd na chaniat\u00e1u unrhyw olau i ddianc o gartrefi, yn wahanol i\u2019r dinasoedd mawrion, doedd dim angen cael llochesau cyrch awyr.\u00a0 Roedd y \u2018blac-owt\u2019 yn anodd i bobl ar gefn beic oherwydd dim ond trwy holl cul dros ben y c\u00e2i\u2019r golau ddod o\u2019r lamp.<\/p>\n<p>Wrth i\u2019r rhyfel fynd yn ei flaen, fe welwyd ei effaith fwyfwy yn Rhandir-mwyn a Chil-y-cwm, wrth i filwyr ddod adref wedi\u2019u clwyfo, rhai yn ystod gwarchae Ynys Melita (Malta).\u00a0 Pan fu farw dyn lleol yn Bwrma ailenwyd cartref ei berthnasau yng Nghil-y-cwm yn \u2018Burma\u2019. Pan ddaeth y fuddugoliaeth yn Ewrop, dathlwyd yr achlysur gan bart\u00efon stryd.\u00a0 Ac wrth i\u2019r milwyr ddychwelyd i ailgydio mewn bywyd teuluol unwaith eto, dechreuodd y pentrefi adeiladu ar yr ysbryd cymunedol a fu mor bwysig yn ystod blynyddoedd tywyll y rhyfel.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">\u00a0<strong>CHILDHOOD MEMORIES OF VILLAGE LIFE DURING WORLD WAR TWO IN RHANDIRMWYN AND CILYCWM<\/strong><\/p>\n<p>The Local Defence Volunteers, who later became the Home Guard, were coordinated by the Rhandirmwyn school master and were made up of ex First World War service personnel, local farmers and school leavers over 18. Positions of rank, such as lance corporal and corporal, went initially to men with First World War experience. There were no official uniforms for the first year, just LDV on an armband, and they used their own shotguns until rifles were issued albeit with only five rounds being allowed per man.\u00a0 The role was taken very seriously with drill weekly on a Sunday afternoon.\u00a0 Children were not encouraged to watch.<\/p>\n<p>A rota system kept two of the volunteers on duty each night in the area of Ty Te Twm.\u00a0 The main function of this duty was to monitor night movements of any potential spies. The area was well known to Germany as the propagandist William Joyce, (Lord Haw Haw), spoke about the Central Wales line which was used for transport of troops, goods and services to the Midlands and beyond.\u00a0 He had mentioned in one of the propaganda broadcasts that they were going to bomb the Cynghordy Viaduct.\u00a0 The Central Wales line was extremely busy during the war with train movements every fifteen minutes.<\/p>\n<p>Being a rural community shortages of food were not such a problem as they were in the major towns and cities in the UK.\u00a0 Dairy farmers were able to have their own milk, butter, and cheese and meat was also available from their stock.\u00a0 Villagers however were clearly not totally immune from food and clothing rationing both during the war and into the early 1950\u2019s.<\/p>\n<p>Children received their gas masks, which they had to carry to and from school, where they received training and regular drill in their use.\u00a0 Early models were later upgraded with an extension to the mask and bands to make them more airtight.\u00a0 There were competitions organised by the school for the collection of salvage.\u00a0 Children earned points, the winner getting a \u2018gold\u2019 award for the most tins, paper and bones.\u00a0 <em>In those days farmers made their own decisions about disposal of animal carcases<\/em>. In Rhandirmwyn, the school gave the children half an hour at lunch time to take the items collected to Captain Carr\u2019s shed.\u00a0 Evacuee children from Swansea and London came to the villages and although they were not in the same classes, because they had to have English speaking teachers, they mixed well with local children in the homes.\u00a0 There were two prisoner of war camps, one for Italian personnel and one for Germans.\u00a0 The camps in Henllan and Llangadog provided useful workers for the many farmers.\u00a0 Some ex-prisoners stayed on and married local girls.<\/p>\n<p>There was a fund raising week every year plus a Salute the Soldiers initiative, as well as a War Weapons Week and a Fund the Destroyer program.\u00a0 When service personnel returned to the villages on leave there were happy parties for the children but sadness when leave was over and the men had to return particularly when they were on embarkation leave and going off to the front. Concerts were always organised and very well attended for these occasions and the children always entertained the returning soldiers, airman and naval personnel.<\/p>\n<p>Swansea was a popular target for the enemy bombers and during raids searchlight beams from there were visible in Cilycwm.\u00a0 During one such three night raid, Neuadd Farm, which was then a school housing children from Weston Super Mare, and operating its own generator, was clearly spotted from the air.\u00a0 A few bombs were dropped on Mynydd Mallaen but none near enough to cause any damage or casualties.<\/p>\n<p>The on duty home guard plus additional volunteers were called in to investigate.\u00a0 They walked up to carry out a check for damage and found only large craters where the bombs had all fortunately exploded.<\/p>\n<p>Prior to the D Day landings, American soldiers carried out mock invasion training in the area. There is a story of two GI\u2019s on the mountain for three days without food being offered, and gratefully drinking the farmer\u2019s milk yield for the morning.\u00a0 The American forces were popular with the local children as when they passed through Llandovery station they would throw sweets to them from the train.\u00a0 The GI\u2019s were based in two camps in Llandovery, one near Llandingat church for white soldiers and one for coloured soldiers near the current campsite at the other end of the town.\u00a0 There were Military Police on duty in Llandovery but never any problems.<\/p>\n<p>The villagers kept up to date as far as possible with news from their battery powered valve radios and the once a week newspaper which was dropped off in the villages on a Sunday.\u00a0 Trips had to be made weekly to Llandovery to have the batteries recharged.<\/p>\n<p>The villages had blackout in houses and streets, but unlike many other areas in large cities or areas on route to them they did not need air raid shelters.\u00a0 Blackout for cyclists was a particular problem as the headlamps were only allowed to display a very narrow slit of light to show the way.<\/p>\n<p>As the war progressed the villages began to experience how intense it was and how close to home as servicemen retuned injured, some from the siege of Malta.\u00a0 A local man had died in Burma and his relatives renamed their Cilycwm home BURMA. As elsewhere in the UK, V.E. day brought a feast of wonderful street party celebrations and as the serviceman returned and were able to take up family life once again, the villages began to build on the community spirit which had been a great part of their war experience.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Recollections of Tom Theophilus. (scroll down for English) ATGOFION PLENTYNDOD AM FYWYD PENTREF YN YSTOD YR AIL RYFEL BYD YN RHANDIR-MWYN A CHIL-Y-CWM\u00a0 Atgofion Tom Theophilus Roedd y Gwirfoddolwyr Amddiffyn Lleol, a ddaeth yn Warchodlu Cartref yn ddiweddarach, yn cael &hellip; <a href=\"https:\/\/cilycwm.com\/?page_id=1011\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":13,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"","meta":{"_s2mail":"","_jetpack_hide_featured_image":false,"_jetpack_featured_image_duplicate_dismissed":0,"footnotes":""},"class_list":["post-1011","page","type-page","status-publish","hentry"],"jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cilycwm.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/1011","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cilycwm.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cilycwm.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cilycwm.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cilycwm.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=1011"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/cilycwm.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/1011\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1015,"href":"https:\/\/cilycwm.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/1011\/revisions\/1015"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cilycwm.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/13"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cilycwm.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=1011"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}