Awst 2026 / August 2026
Rydym yn falch iawn o adrodd bod y ffenestri mawr wedi cyrraedd o’r diwedd, ac wedi’u gosod yr wythnos diwethaf, ar ôl oedi hir yn ystod Phase 1 o’r prosiect. Ar yr un pryd, cwbwlhawyd y ffos ar gyfer dŵr, carthffosiaeth a thrydan ar hyd y llwybyr sy’n arwain at y Capel. Mae’r gorchudd allanol yn cael ei osod ar waliau’r estyniad yr wythnos yma. Erbyn hyn mae’r adeilad yn gwbl gaeedig rhag y tywydd, sy’n galluogi’r yr adeiladwyr, Towy Projects, fwrw ymlaen yn gyflymach gyda’r gwaith mewnol o orffen y gegin, y toiledau, y cyntedd a’r ystafell gyfarfod ar y llawr uchaf. Y prif elfen olaf yr ydym yn dal i aros amdani yw’r grisiau. Gobeithiwn y bydd yr Estyniad wedi’i gwblhau ac wedi derbyn tystysgrif Rheoliadau Adeiladu erbyn diwedd mis Medi, yn barod i’w ddefnyddio gan y gymuned drwy gydol y gaeaf nesaf. Hoffem ddiolch i’r gymuned ac i’n cyllidwyr, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin, am eu hamynedd.
Hefyd, rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi sicrhau cyllid i ddechrau Phase 2– Atgyweirio ac Addasu Capel y Groes a’r Tŷ Capel – gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Elusennol Swires a’r Architectural Heritage Fund. Mae gwaith atgyweirio ar y toeau eisoes wedi dechrau, a’r camau cynnar nesaf fydd tynnu’r meinciau a lefelu’r llawr. Wedyn bydd gwaith inswleiddio, gosod systemau gwresogi (drwy bwmp gwres ffynhonnell aer) ac atgyweiriadau eraill yn mynd ymlaen. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau tua mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf. Er na fydd modd defnyddio’r capel tan hynny, bydd gennym ddefnydd llawn o’r Estyniad newydd. Dechreuwch gynllunio gweithgareddau a digwyddiadau i ddod â phobl ynghyd unwaith eto!
______
We’re delighted to report that, after a long wait in Phase One, the large windows arrived and were installed last week. Alongside this, new connections for water, sewage and electricity were made via trenches in the lane leading to the Chapel last week also. This week sees the external cladding being added to the extension. Now that the building is airtight, the builders – Towy Projects – can speed ahead with internal finishes to the kitchen, toilets, entrance hall & upstairs meeting room. The last major item we await is the staircase. Hopefully the Extension will be completed and signed off by Building Regs by the end of September ready for community use throughout this next winter. We are grateful to the community and to our funders, the Welsh Government and Carmarthenshire County Council, for their patience.
We’re delighted to announce that we’ve secured funding to start Phase Two – the Repairs & Adaptation of Capel y Groes & Ty Capel – from the National Lottery Community Fund, Swires Charitable Trust and the Architectural Heritage Fund. Repairs on the rooves has begun and early next steps will be to remove the pews and level the floor. Then insulation, heating systems (via air source heat pumps) and other repairs will follow. Works are expected to be completed around July next year. Although we won’t be able to use the chapel until then, we will have full use of the new Extension. Start planning activities and events to bring people together again!
Mawrth 2026 / March 2026
Y mis diwethaf, rhoddwyd taith o’r gwaith adeiladu i Ann, Audrey a Brian – aelodau gwreiddiol o’r capel Annibynnwyr a roddodd Gapel y Groes ar gyfer defnydd y gymuned. Roeddent wrth eu bodd wrth weld y newidiadau.
- Mae twll i ddrws wedi’i dorri drwy y wal o Llawr Cyntaf yr Estyniad i mewn i festri Tŷ Capel.
- Mae talcen gorllewinol y Ty Capel wedi’i ailbwyntio gyda chalch.
- Mae rhagor o inswleiddio wedi mynd i mewn i’r waliau.
- Mae’r tîm trydanol wedi dechrau gosod gwifrau’r socedi, ayyb.
- Mae’r dyluniad ar gyfer y gegin wedi’i gwblhau a’r archebion wedi’u rhoi drwy LBS. Bydd ynddi sinc, ffwrn a hob, peiriant golchi llestri, digon o gypyrddau, dwy oergell, a larder/pantri.
- Mae’r cyfarpar ar gyfer dwy ystafell ymolchi hygyrch wedi’i archebu.
- Mae’r dyluniad ar gyfer y grisiau derw wedi’i gwblhau, ac wedi mynd allan i dendar at gyflenwyr grisiau.
- Darganfuwyd bod rhai atgyweiriadau i do Tŷ Capel yn angenrheidiol er mwyn gorffen to’r Estyniad yn gywir. Felly, codwyd mwy o sgaffaldiau, ac mae’r gwaith wedi dechrau i adfer ac atgyweirio gwaith coed y tô.
Y camau allweddol dros yr wythnosau nesaf fydd gosod y sgrîd llawr, y gorchudd allanol, y ffenestri a’r grisiau. Unwaith y bydd y ffenestri i mewn, a’r adeilad wedi’i selio’n llwyr rhag tywydd, gall y gwaith o osod y gegin, yr ystafelloedd ymolchi, y teils llawr a’r gosodiadau mewnol eraill, ynghyd â phaentio, fynd yn ei flaen.
Last month we gave Ann, Audrey & Brian a tour of the building works – they are the original Annibynwyr chapel members who donated Capel y Groes for community use and were delighted to see the changes.
- A doorway has been knocked through on the First Floor from the Extension through into Ty Capel vestry.
- The gable end has been repointed with lime.
- More insulation has gone into the walls.
- The electrical team have begun wiring the sockets, switches and light fittings.
- The kitchen design was finished and orders placed with LBS. It will have a sink, cooker, dishwasher, plenty of cupboard space, two fridges and a small larder space.
- Sanitary ware for two accessible toilets has been ordered.
- The oak stairway design was finalised and has gone out to tender with staircase manufacturers.
- Some repairs to the roof of Ty Capel were found to be necessary before the adjoining Extension roof can be finished so further scaffolding went up and works have begun to replace rotten purlins and batons.
The key steps in the coming weeks are the floor screed, the external cladding, windows, and staircase. Once the windows are in and the building is fully weatherproof, the kitchen, toilets, floor tiles and other internal fittings and painting can go ahead.
Chwefror 2026 / February 2026
Mae’r gwaith ar yr estyniad newydd yng nghefn Capel y Groes yn symud yn ei flaen yn dda. Bydd yr estyniad hwn, a elwir yn “Phase 1”, yn darparu’r brif fynedfa i’r holl adeilad, cegin a dau doiled ar y llawr gwaelod a stafell ychwanegol ar y llawr cyntaf. Bydd y brif fynedfa hon yn darparu mynediad lefel, ac addas, i Tý Capel ac i brif neuadd y Capel. (Yn anffodus, nid oedd y fynedfeydd gwreiddiol o 1860 i’r Capel a Thŷ Capel yn bodloni safonau hygyrchedd modern.)
Works on the new extension at the back of Capel y Groes are well underway. This extension, known as “Phase 1”, will provide the Main entrance to the whole complex, a kitchen and two toilets on the ground floor and an extra room on the first floor. This main entrance will be our level and accessible route into Ty Capel and the main Capel hall. (Unfortunately the old 1860 entrances into the Capel and Ty Capel did not meet modern day accessibility standards).
Dechreuodd y gwaith safle ar 2il Medi 2025 ac yna gosodwyd y sylfeini concrit, cynllun y stafelloedd ar y llawr gwaelod, yr ysgaffaldiau, y llawr cyntaf, y waliau, strwythur y to, yr inswleiddio a’r gorchuddion gwynt a dŵr. Y camau nesaf dros yr wythnosau nesaf fydd yr haenen allanol ar y waliau, a’r ffenestri ac, ar ôl hynny, y gwaith mewnol fel y gegin, y toiledau a’r grisiau. Mae’n adeilad ffrâm bren gyda gorchudd allanol o ddur corten a ffenestri mawr o’r llawr i’r nenfwd. Mae cynlluniau’r pensaer yn dilyn yn union y dyluniadau a gymeradwywyd gan y gymuned yng nghyfarfod cyhoeddus Gorffennaf 2023.
Er bod oedi wedi bod oherwydd trwydded ystlumod, eira a glaw trwm, a chyflenwyr yn cau dros wyliau hir y Nadolig, mae’r Ymddiriedolwyr yn hyderus y bydd y gwaith yn symud yn ei flaen yn awr. Bu’n rhaid inni rannu’r gwaith adeiladu’n ddau “phase” er mwyn ffitio i’r ffynonellau ariannu oedd ar gael. Mae’r arian ar gyfer yr estyniad newydd hwn wedi dod o 3 ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chronfa Eglwys Cymru. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda chontractwr adeiladu o Lanymddyfri, sef Towy Projects, a’i dîm o bobl leol. Ble bynnag y bo modd, ceir gweithwyr a chyflenwadau o fewn Sir Gaerfyrddin neu’n agos ati.
Bydd “Phase 2” yn cynnwys atgyweirio ac addasu’r hen adeiladau’n llawn i ddarparu prif neuadd fawr (yn lle’r Capel presennol) a dwy ystafell lai (ar lawr gwaelod ac ar y llawr cyntaf yn ŷ Tý Capel). Mae ceisiadau am arian ar gyfer y gwaith hwn wedi’u cyflwyno ac rydym yn disgwyl clywed y canlyniadau o fewn y misoedd nesaf.
Groundworks began on 2nd September 2025 and were followed by the concrete foundations, layout of the ground floor rooms, scaffolding, first floor, walls, roof structure, wall insulation and weatherproofing wraps.The next steps in the coming weeks will be the external wall cladding and windows and, after that, the internal fixings like kitchen, toilets and staircase. It is a wooden frame building with external cladding in corten steel and large floor to ceiling windows. The architects’ building plans have faithfully followed the designs approved by the community in the public meeting of July 2023.
Although there have been delays caused by a bat licence, snow and heavy rain, and suppliers closing for long Christmas holidays, the Trustees are confident of steady progress ahead. We had to split the building works into two phases to fit funding pots available. Funding for this new extension has come from 3 pots: the Welsh Government, Carmarthenshire County Council and the Welsh Church Fund. We are delighted to be working with a Llandovery-based building contractor, Towy Projects, and his team of locals. Wherever possible workmen and supplies are sourced from within Carmarthenshire or nearby.
Phase 2 will involve the full Repair and Adaptation of the old buildings to provide a large main hall (in the existing Chapel space) and two small rooms (in Ty Capel’s ground floor and first floor). Funding applications for these works have been submitted and we expect to hear results in the next couple of months.
