Cau dros dro Cwm Rhaeadr temporary closure.

 

(For English, scroll down).

BYDD GWAITH CYNAEAFU’N CYCHWYN YM MIS MEDI – CWESTIYNAU AC ATEBION

PAM RYDYM YN TORRI’R COED I LAWR?

Mae’r coed yn cael eu teneuo. Bydd hyn yn rhoi mwy o le iddynt dyfu, a mynd yn fwy. Bydd hefyd yn galluogi mwy o olau i gyrraedd y ddaear, sef rhywbeth a fydd yn annog planhigion y ddaear ac isdyfiant prennaidd i dyfu. Cafodd y coed hynaf a mwyaf yng Nghwm Rhaeadr (y ffynidwydd Douglas o amgylch y maes parcio) eu plannu yn 1947 oddeutu 6 throedfedd (1.8m) oddi wrth ei gilydd, ac maent wedi’u teneuo sawl gwaith ers hynny. Mae teneuo’n ffordd arferol o reoli coedwig.

PAM MAE’R GOEDWIG YN CAEL EI CHAU I’R CYHOEDD?

Ni fydd yn ddiogel i’r cyhoedd fod yn y goedwig tra bydd y gwaith yn cael ei wneud. Mae gwaith cynaeafu’n waith peryglus. 

PAM NA ALL Y CYHOEDD DDOD I’R GOEDWIG YN YSTOD PENWYTHNOSAU NEU PAN FYDD Y CONTRACTWYR WEDI MYND ADREF?

Efallai y bydd y contractwyr yn gweithio ar benwythnosau. Hyd yn oed pan fyddant wedi mynd adref, gall y safle barhau i fod yn beryglus, gyda choed a pheiriannau’n cau llwybrau ac ati.

I BLE ARALL Y GALLA’ I FYND TRA BYDD Y GOEDWIG WEDI’I CHAU?

Os ydych yn beicio mynydd, y coetir agosaf yw Brechfa; ar gyfer cerddwyr, rhowch gynnig ar Grychan neu Gilgwyn. Cewch fwy o wybodaeth ar wefan CNC:- yn yr awyr agored:- mwynhau’r awyr agored.

A FYDD LLWYBRAU’R GOEDWIG YN CAEL EU DIFRODI?

Byddant, ond rydym wedi cynllunio’r gwaith mewn modd a fydd yn effeithio cyn lleied â phosibl ar y llwybrau. Byddwn yn eu hadfer ar ôl i’r gwaith cynaeafu ddod i ben.

AM BA HYD Y BYDD Y GOEDWIG WEDI’I CHAU?

Y gobaith yw y bydd yr holl waith wedi’i gwblhau mewn rhyw ddeufis.

I BLE Y BYDD Y PREN YN MYND?

I nifer o wahanol lefydd: bydd boncyffion mawr yn mynd i felinau llifio, bydd deunyddiau llai’n mynd i’r marchnadoedd ffensio, a bydd deunyddiau o ansawdd is yn cael eu defnyddio i wneud biodanwydd ar gyfer cynhyrchu trydan neu’n cael eu defnyddio i wneud byrddau sglodion.

EISIAU MWY O WYBODAETH?

Cysylltwch â:

Brian Hanwell – Rheolwr Ardal Leol 0300 068 0268

Caroline Riches – Rheolwr y Coetir 07824 301139     

 

 

HARVESTING OPERATIONS WILL COMMENCE IN SEPTEMBER – Q & A’s

WHY ARE WE CUTTING DOWN TREES?

The trees are being thinned.  This will enable them to have more space to grow, and get bigger.  It also allows more light to reach the ground which will encourage  a ground flora and woody understorey to develop.   The oldest and biggest trees in Cwm Rhaeadr (the big Douglas firs around the car park) were planted in 1947 approximately 6 feet (1.8m) apart, and have been thinned several times since then.  Thinning is normal forest management.

WHY IS THE FOREST BEING CLOSED TO THE PUBLIC?

It’s not safe for the public to be in the wood whilst works are taking place.  Harvesting operations are dangerous.  

WHY CAN’T THE PUBLIC COME INTO THE FOREST AT WEEKENDS OR WHEN THE CONTRACTORS HAVE GONE HOME?

The contactors may be working on weekends.  Even when they have gone home the site may be dangerous, with trees and machinery blocking tracks etc.

WHERE CAN I GO INSTEAD WHILST THE FOREST IS CLOSED?

The nearest woodland is Brechfa if you are a mountain biker, for walkers try Crychan or Cilgwyn.  You can find out more by looking at the NRW website:-  out and about:-  enjoy the outdoors.

WON’T THE WOODLAND TRAILS BE DAMAGED?

Yes, though we have planned the works to have as little impact as possible – but we will reinstate once the harvesting has been finished.

HOW LONG WILL THE FOREST BE CLOSED?

We hope everything should be completed in a couple of months or so.

WHERE WILL THE TIMBER BE GOING?

To a variety of outlets:  larger logs will go to the sawmills, smaller material to the fencing markets, and poor quality stems for bio-fuel for electricity generation or for manufacture into chipboard.

WANT MORE INFORMATION?

Contact:

Brian Hanwell – Local Area Manager 0300 068 0268

Caroline Riches – Woodland Manager 07824 301139  

 

 

 

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *