
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Joan bu farw yng Nghartref Gofal Y Grange, Llanymddyfri yn 95 oed. We extend our deepest sympathy to Joan’s family who passed away in the Grange Care Home, Llandovery aged 95.
Ganwyd Joan yng Nghlynmawr yn un o bedwar o blant i Thomas a Mary Jones. Mynychodd Ysgol Cilycwm ac yr oedd yn mynd i’r ysgol ar ei cheffyl “Beto” a’i gadael mewn ystabal cyn croesi’r bont i Heol y Llongau – un o’r rhai olaf i fynd i’r ysgol ar gefn ceffyl. Joan was born in Clynmawr and was one of the 4 children of Thomas and Mary Jones. She attended Cilycwm School and used to ride to school on her pony “Beto”, leaving her in a stable before crossing the bridge into Ship Street – one of the last to go to school on horseback.
Bu’n aelod ffyddlon yng Nghapel Tynewydd ac yn organydd yno am dros 70 mlynedd. Diolchwn am ei gwasanaeth clodwiw i’r Capel ac i’r ardal. She was a faithful member of Tynewydd Chapel and played the organ for over 70 years. We are grateful for her praiseworthy service to the Chapel and to the area.